SUPERFREIGHT


Nadja Buttendorf with Sabrina Labis, Dina Kelberman, Paul Granjon, Ian Watson

CAMPFA Mercher 29ain Ionawr – Sadwrn 29ain Chwefror 2020

Mae SUPERFREIGHT yn uno gwaith sy’n crybwyll ein perthynas gyda chwedleua, cynhyrchu a thechnoleg. Wedi eu lleoli yn rhyngwladol ac yn Ne Cymru, mae’r artistiaid yn aml yn gwneud defnydd o ddiwylliant digidol a’r rhyngrwyd i archwilio syniadau ynghylch y dyfodol, arferion normal a’n perthynas personol a chymdeithasol gyda thechnoleg cyfathrebu.

Nadja Buttendorf gyda Sabrina Labis




360º Nail

Fideo 2:05 mun (rhan 1), 360 Video 12.10 mun (rhan 2), 2019

Mae camera 360° wedi ei gysylltu at ewin bys. Gyda’r gosodiad yma mae’n bosib ffilmio golygfa o bersbectif yr ewin. Does dim dianc o’r olygfa blaen-bys 360°.

Mae camerâu 360° yn perthyn i’r maes ehangach o’r ‘action-cams’ nodweddiadol. Mae’r camerâu bach sy'n ddiogel rhag dŵr ac ysgytiadau fel arfer wedi eu gosod ar helmedau, beiciau a beiciau modur ayyb, tra bod action-cams nodweddiadol fel arfer yn portreadu chwaraeon eithafol ayyb, mae 360° Nail yn agor persbectif hollol newydd. Mae’r ewin yn dod yn drybedd.

Yn y tiwtorial, gwelir sut mae’r gel ewin estynedig yn cael ei ddrilio tra’n sownd at y bys.  Mae angen twll 6mm i osod y sgriw ar gyfer y drybedd. Yn yr olygfa 360° blaen-bys i’w ddilyn, ymunwch â Sabrina Labis a Nadja Buttendorf drwy lens seimllyd, i fwyta sglodion a sgwrsio am dechnoleg.


Dina Kelberman

I’m Google
Blog Tumblr, 2011 – presennol The Goal is to Live
Fideo dolen diddiwedd, 2019

Blog Tumblr yn cynnwys llwythi o luniau hapgael a fideo wedi ei drefnu a’i ddethol â llaw i greu llif ymwybodol gweledol, yw I’m Google. Mae’r llwythi yn llifo o un pwnc i’r nesaf yn ddibynnol ar eu tebygrwydd o ran ffurf, cyfansoddiad, symudiad a thema. Yn groes i’r rhagdybiaeth arferol, does dim algorithm yn cael ei ddefnyddio i greu’r blog ac mae’r rhan fwyaf o’r cynnwys yn cael eu darganfod drwy chwilio am eiriau allweddol a chynnwys perthnasol ( h.y.. heb ddefnyddio “tebygrwydd gweledol”.) Mae’r gwaith yma wedi bod yn mynd ymlaen ers 9 mlynedd ac yn dal i gael ei ddiweddaru pan deimlai’r artist yr awydd.

Cysodiad dolen ddiddiwedd yw The Goal Is To Live, wedi ei wneud o ddeunydd ail-bwrpasol o’r sioe boblogaidd How It’s Made, sy’n cofnodi'r ffactorïau sy’n creu deunydd pob dydd. Mae’r ffilm yn cymryd fy ymarferiad o gasgliad ag ail-gyd-destynioli i waith raddfa fawr ac yn seiliedig ar amser am y tro cyntaf. Yn aildrefnu clipiau byr i mewn i naratif hir Rube-Goldburg-aidd, a dangos trac sain hypnotig, mae’r ffilm yn dangos proses syfrdanol a swrrealaidd ble mae deunyddiau yn cael eu trawsnewid mewn myrdd o ffyrdd gan ddiweddu wrth weld eu hunain nôl ar ddechrau’r ffilm.




Paul Granjon

Insect Buzz / The Future, 2020

Mae Paul Granjon wedi cwestiynu ein defnydd a’n dealltwriaeth o dechnoleg ers llawer blwyddyn. Wedi ei addysgu gan astudiaeth wyddonol ac adroddiadau peirianneg, mae ei waith diweddar yn cyfeirio at effaith gwareiddiad cyfalafol ar yr ecosystem, dyfodol adnoddau, a gweithrediad dinasyddion.

Ar gyfer SUPERFREIGHT, mae Granjon yn arddangos casgliad o waith newydd sy’n cynnwys hysbyslenni sonig wedi ei wneud ar gyfer protestiadau amgylcheddol , totem sy’n recordio ac adrodd safbwyntiau am y dyfodol a bwrdd sgwrsio ble mae cyfle i ymwelwyr drafod ecoleg, technoleg, cynaliadwyedd ac unrhyw bwnc arall. Mae’r gwaith a ddangosir yn bennaf wedi ei greu o ddeunydd wedi ei ailgylchu gyda chylchedwaith electronig wedi ei gysodi â llaw a’i ddylunio ar gyfer treuliant trydan isel.


Ian Watson

Pylons and Spires, Fideo 23:00 mun (2020)

Mae Pylons and Spires yn gasgliad o fyfyrdodau wedi ei ddarlledu fel monolog diddiwedd o ffynhonnell bell.  Cyntaf o gyfres o waith sy’n adlewyrchu ar gyflyrau o fywyd cyfoes ar y ddaear drwy themâu ac arsylliadau sy’n gydamserol benodol ac anuniongyrchol, wedi ei gyflwyno gan gymeriadau sy’n byw ar yr ymylon rhwng y ffeithiol a’r canfyddedig.



AM YR ARTISTIAID:

Mae Nadja Buttendorf yn cwestiynu normau cyfredol ac adeiladwaith codau rhyw a mecanwaith creu gwerth sydd yn y corf dynol a’r gymdeithas ddigidol. Mae ei gwaith yn ei wneud yn glir bod ein dealltwriaeth o dechnoleg hefyd â chysylltiad â phŵer patriarchaidd. Mae ei gwaith rhyngweithiol a phrosiectau fideo , ar y llaw arall, yn llunio naratif aml-haenog newydd, ble mae menywod yn dod yn weladwy unwaith eto fel rhan elfennol o hanes technoleg. Mae hi’n tynnu momentau siaradus o gyfranogaeth ar y we yn ei gwrthrychau gemwaith perfformiadol a’i gweithdai addysgol. Mae DIY, fel esthetig ar-lein eang, yn cael ei ddefnyddio yn benodol fel strategaeth mynediad a gwrthodiad o foeseg gwaith neo-rhydfrydol.

nadjabuttendorf.com

Mae Sabrina Labis yn gweithio gyda fideo, gosodiadau a pherfformiad. Mae ei hymarferiad artistig yn delio gyda chysyniadau a phrosesau o ddelweddaeth ddigidol, y mae hi’n defnyddio i ddeall systemau gwerth, cysylltiadau rhyw, strwythur pŵer neu fecanwaith cymdeithasol. Yn y cyd-destun yma, mae’r we yn ffynhonnell bwysig o ysbrydoliaeth a deunydd iddi. O ymchwil dwfn mae ei darnau amlgyfrwng barddonol yn gyfuniad o ddeunydd amryfath ble mae ei chyfarchwyliad personol yn cael ei rannu gyda’r gwyliwr.

sabrinalabis.net



Mae Dina Kelberman yn artist aml-gyfrwng sy’n cael ei hadnabod yn bennaf am ei gwaith o adfeddiant ar raddfa fawr. Mae wedi creu darnau ar gyfer y New Museum a The Marina Abramovic Insitute ac wedi cymryd rhan mewn nifer o fiennalau dylunio o ffotograffiaeth o amgylch y byd. Mae ei gwaith wedi cael ei sgwennu amdano yn y New York Times , Art21, NPR, Known and Strange Things (Cole, 2016), Wasting Time on the Internet (Goldsmith, 2016) ac yn fwy diweddar y testunlyfr The Focal Press Companion to the Constructed Image in Contemporary Photography (Shindelman & Massoni, 2018) a thraethawd yr arloeswr celf ar-lein Olia Liliana ‘An Infinite Séance 3’. Yn 2018 fe’i gwahoddwyd i siarad yng nghynhadledd UbuWeb yn Athens a’r Post-Photography Prototyping Biennial yn Llundain. Mae hi nawr yn 5ed yn y byd am y fwyaf o linellau yn Tetris ar gyfer y Nintendo Entertainment System.

dinakelberman.com


Mae gan Paul Granjon ddiddordeb yn y cyd-esblygiad o’r bod dynol a pheiriannau, gan ddychmygu datrysiadau ar gyfer dyfodol eraill a rhannu ei brofiadau o dechnoleg greadigol.  Mae wedi bod yn creu robotiaid a pheiriannau eraill ar gyfer arddangosfeydd a pherfformiadau ers 1996. Mae gwaith Granjon yn cael ei adnabod am gyfuniad o hiwmor a chwestiynau seriws, a chyflwynwyd gada pheiriannau absẃrd wedi eu gwneud a chydrannau wedi’u hailgylchu. Cafwyd His Sexed Robots ei arddangos yn y Pafiliwn Cymreig ym Miennale Fenis yn 2005. Mae’n perfformio ac yn arddangos yn genedlaethol, gyda chomisiynau diweddar yn Garage Museum Moscow a Szkuna Zentroa Bilbao. Mae’n cynnal Wreckshops yn rheolaidd, sef digwyddiadau cyhoeddus ble mae cyfranogwyr yn derbyn gwahoddiad i ddatgymalu gwast electronig ac adeiladu peiriannau dros dro newydd o’r darnau maent yn darganfod. Mae gwaith diweddar Granjon wedi cael ei ysgogi gan agenda cydrannog ac ecolegol. Mae’n dysgu Celf Gain yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd, ac mae ei waith yn cael ei ariannu gan brosiect EASTN-DC yn Ysgol Celf a Dylunio, Caerdydd.

zprod.org


Mae Ian Watson yn artist sydd wedi ei leoli yng Nghaerdydd sydd ar hyn o bryd yn cymryd rhan yng nghymrodoriaeth G39 gyda chymorth gan Freelands Foundation.