Hoffai ArcadeCampfa gynnig dau gomisiwn i greu gwaith newydd ar gyfer gwefan AC yn ystod y cyfnod hwn o hunan-ynysu. Mae croeso i gyflwyno gwaith o unrhyw gyfrwng , ond mae’n rhaid bod modd ei arddangos yn ddigidol.

Mae’r cyfle yma yn agored i artistiaid ar unrhyw adeg o’u gyrfa sy’n gweithio mewn unrhyw gyfrwng yn cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gelf weledol, testun, perfformiad, sain ayyb. Y ffi yw £300 gan gynnwys deunyddiau. Bydd yn rhaid creu'r gwaith gan ddilyn canllawiau pellter cymdeithasol y llywodraeth. Does dim rhaid i’r gwaith ymwneud a’r sefyllfa bresennol.

Does dim rhaid i chi fod wedi’ lleoli yng Nghymru ond bydd blaenoriaeth i’r rheini sydd.

Ymgeisiwch drwy anfon paragraff byr, dim mwy na 250 gair, yn sôn am eich prosiect, ac unai CV neu ddolenni i’ch gwaith presennol i info@arcade-campfa.org erbyn y 4ydd o Fai.

Ewch i’n gwefan arcade-campfa.org am fanylion o gyn-brosiectau ac arddangosfeydd.